Archived: Christmas 2020 - Welsh Song
Resource ID
3992
Access
Restricted
Contributed by
Adam Haggerty
Country
Wales
Region
United Kingdom
Date
10 November 20
Consent form received
Yes
Subject
Faith, Fundraising
Caption
Artists: Meilyr Geraint and Cadi Gwyn.
Original words: Kathy Galloway.
Recorded for Christmas 2020.
Background information
Lyrics in Welsh:
Pan aned gynt mewn tlodi caeth
Addewid mawr ein Hiôr,
Daeth gobaith eto’n fyw i’r tlawd –
Bydd digon yn eu stôr.
A’r proffwyd heria ninnau’n awr
I gydio yn y llyw:
‘Clyw alwad heddiw Frenin Nef,
Gwna briffordd syth i Dduw.’
Pan grwydra dyn yn bell o Dduw,
A gwrthod siâr ei frawd.
Caiff yntau weld mai golud gwir
Yw rhannu gyda’r tlawd.
Rho sylw, ffrind, i broffwyd nawr,
I’w neges, bydd yn driw:
‘Clyw alwad heddiw Frenin Nef,
Gwna briffordd syth i Dduw.’
Pan welodd Mair, y forwyn gref,
Yr angel disglair, gwyn,
Rhodd ofn o’r neilltu, mentro wnaeth
Yn gadarn a di-gryn.
Cans clywodd hithau neges glir
Y proffwyd tros ei Llyw:
‘Clyw alwad heddiw Frenin Nef,
Gwna briffordd syth i Dduw.’
Marker lat / long: 54, -2 (WGS84)